Addasiad dwyieithog o Hundred Feet Tall gan Benjamin Scheuer. Dwyt ti byth yn rhy fach i wneud gwahaniaeth mawr! Mae'r stori hon yn dilyn teulu o gwningod wrth iddyn nhw ddod o hyd i hedyn a’i helpu i dyfu i fod yn goeden fawr. Llyfr stori-a-llun ysgafn sy'n dangos i ni y gall hyd yn oed yr hedyn lleiaf, gyda gofal, dyfu i sefyll gan troedfedd o’r llawr.
A bilingual adaptation of Hundred Feet Tall by Benjamin Scheuer. You’re never too small to make a big difference! This story follows a family of rabbits as they find a seed and help it to grow into a large tree. A light-hearted picture story book that shows us that the smallest seed, with care, can grow into a hundred foot tall tree.